Star Trek: Picard | |
---|---|
Genre |
|
Crëwyd gan |
|
Seiliwyd ar | Star Trek: The Next Generation gan Gene Roddenberry |
Yn serennu |
|
Cyfansoddwr/wyr | Jeff Russo |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Nifer o dymhorau | 3 |
Nifer o benodau | 30 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr gweithredol |
|
Lleoliad(au) | Santa Clarita, California |
Cwmni cynhyrchu |
|
Dosbarthwr | CBS Television Distribution |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol |
|
Darlledwyd yn wreiddiol | Ionawr 23, 2020 | – presennol
Cronoleg | |
Rhagflaenwyd gan | Star Trek: Discovery |
Sioeau cysylltiol |
|
https://www.paramountplus.com/shows/star-trek-picard/ Gwefan |
Cyfres deledu gwe Americanaidd yw Star Trek: Picard a grëwyd ar gyfer CBS All Access gan Kirsten Beyer, Akiva Goldsman, Michael Chabon ac Alex Kurtzman. Dyma'r wythfed gyfres yn masnachfraint Star Trek ac mae'n canolbwyntio ar y cymeriad Jean-Luc Picard. Mae'n cymryd lle ar ddiwedd y 24ain ganrif, 18 mlynedd ar ôl digwyddiadau Star Trek: Nemesis (2002), ac mae'r stori yn cael ei ddylanwadu gan farwolaeth yr android Data yn Nemesis. Mae dinistriad Romulus sy'n digwydd yn y ffilm Star Trek yn rhan o hanes, a lleoliad y sioe.
Patrick Stewart yw cynhyrchydd gweithredol y gyfres ac mae'n serennu fel Picard, gan ail-afael yn ei rôl o Star Trek: The Next Generation yn ogystal â'r ffilmiau Star Trek. Mae Santiago Cabrera, Michelle Hurd, Evan Evagora, Alison Pill, Harry Treadaway, ac Isa Briones hefyd yn serennu. Mae sawl actor o gyfresi blaenorol Star Trek hefyd yn ail-gymeryd eu rhannau, gan gynnwys Brent Spiner, Jeri Ryan, Marina Sirtis, a Jonathan Frakes.[1] Daeth sïon am y gyfres i ddechrau ym mis Mehefin 2018 pan ddechreuodd Kurtzman ei waith yn ehangu'r masnachfraint, ac fe'i gyhoeddwyd yn swyddogol ym mis Awst ar ôl misoedd o drafodaethau gyda Stewart, a oedd wedi dweud o'r blaen na fyddai'n dychwelyd i'r fasnachfraint ar ôl Nemesis. Dechreuodd y ffilmio yng Nghaliffornia ym mis Ebrill 2019, gyda theitl swyddogol y gyfres yn cael ei gyhoeddi fis yn ddiweddarach.
Cyflwynwyd Star Trek: Picard am y tro cyntaf ar 23 Ionawr 2020, 12:00am (PST) a bydd ei dymor cyntaf yn cynnwys deg pennod. Cyn y bennod gyntaf, adnewyddwyd Star Trek: Picard gan CBS All Access am ail dymor o 10 pennod.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search